Rhif y ddeiseb: P-06-1312

Teitl y ddeiseb: Helpu i wella ansawdd dŵr yn Afon Wysg drwy uwchraddio systemau carthffosiaeth yn nyffryn Wysg.

Geiriad y ddeiseb:

Mae Afon Wysg yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig mewn Ardal Cadwraeth Arbennig.  Er hynny, gan fod ansawdd y dŵr yn Afon Wysg mor wael, mae 88 y cant o'i chyrff dŵr yn methu â chyrraedd eu targedau. Gellid gosod targedau i wella’r sefyllfa. (Er enghraifft: 50 y cant erbyn diwedd 2023, 25 y cant erbyn 2024 ac ati).  Mae eogiaid, brithyllod y môr a llysywod i gyd yn dirywio’n ddifrifol. Mae tyfiant chwyn Ranunculin wedi diflannu bron yn llwyr o’r afon.  Mae pobl sy'n nofio'n wyllt yn yr afon mewn perygl o ddal heintiau

Ac eto, beth sy’n digwydd i atal y dirywiad hwn? Mae Dŵr Cymru yn gorff dielw, a hynny ers 20 mlynedd.  Gan nad oes angen talu difidendau i randdeiliaid, gellid bod wedi buddsoddi’r arian hwn mewn cynlluniau i uwchraddio systemau carthffosiaeth ar hyd a lled Cymru. Mae’n eironig bod dŵr o afon Wysg yn cael ei bwmpio o Felin Prioress i Gronfa Ddŵr Llandegfedd ar gyfer ei yfed yn ne Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru i fod i orfodi safonau ansawdd dŵr, ond mae’n cael ei ystyried yn aneffeithiol yn gyffredinol. Mae llygredd amaethyddol a dŵr ffo pridd hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at y broblem. Mae newid hinsawdd ynghyd â’r cynnydd o ran sychder a llifogydd hefyd yn creu cymhlethdodau.  Un o amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwella’r amgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ond mae’n amlwg nad yw hyn yn digwydd. Rydym yn galw ar y Senedd i sicrhau bod Dŵr Cymru yn buddsoddi digon o arian i uwchraddio systemau carthffosiaeth yn nyffryn Wysg i helpu’r Afon Wysg i ddychwelyd i’w hen ogoniant.


Y cefndir

Mae’r Afon Wysg yn un o saith afon yng Nghymru sydd wedi’u dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) lle mae rhywogaethau allweddol yn cael eu gwarchod o dan y Rheoliadau Cynefinoedd. Mae wedi'i dynodi o ran saith nodwedd allweddol.

1.1.            Asesu ansawdd dŵr

Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (Cymru a Lloegr) 2017 (WFD) yw'r prif fecanwaith ar gyfer asesu a rheoli'r amgylchedd dŵr. Mae’r Rheoliadau yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i atal dirywiad pob corff dŵr a sicrhau eu bod yn ennill statws da erbyn 2027.  

Mae 'pob corff dŵr' yn cyfeirio at bob dŵr wyneb - afonydd, llynnoedd, dyfroedd trosiannol ac arfordirol - yn ogystal â dŵr daear. Nod y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yw:  

§  lleihau llygredd a gwella cyflwr ecosystemau dŵr;  

§  hyrwyddo defnyddio dŵr mewn modd cynaliadwy; a  

§  lleihau effeithiau llifogydd a sychder. 

Caiff y Gyfarwyddeb ei rhoi ar waith gam wrth gam, fesul basn afon, yn hytrach nag ar draws ffiniau cenedlaethol neu wleidyddol, drwy Gynlluniau Rheoli Basnau Afonydd a ddatblygwyd ar gyfer pob Ardal Basn Afon (RBD). Mae’r Afon Wysg i'w gweld yn y Cynllun Rheoli Basn Afon Hafren, y mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn arwain y gwaith arno oherwydd daearyddiaeth drawsffiniol y basn afon hwn.

Mae’r Cynllun Rheoli Basn Afon yn disgrifio’r heriau sy’n bygwth yr amgylchedd dŵr a sut y gellir rheoli ac ariannu’r rhain. Mae rhan Cymru ar wahân o Gynllun Rheoli Basn Afon Hafren, sy'n cynnwys gwybodaeth am yr Afon Wysg.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal rhwydwaith o safleoedd arsylwi ansawdd dŵr ledled dalgylch yr Afon Wysg. Yn yr ymateb i’r ddeiseb hon, mae Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd yn tynnu sylw at y ffaith bod gan Gyfoeth Naturiol Cymru “nifer o brosiectau a rhaglenni rhagweithiol” wedi’u cynllunio i gyflawni’r nodau sydd wedi’u cynnwys yn y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd i wella ansawdd dŵr.

1.2.          Llygryddion

Mae’r Gweinidog wedi nodi nifer o ffynonellau llygredd ym Mrynbuga, gan gynnwys systemau trin carthion preifat, dŵr ffo trefol, amaethyddiaeth, a gollyngiadau cwmnïau dŵr.

Gollyngiadau cwmnïau dŵr

Mae’r pwysau sy’n wynebu seilwaith carthffosiaeth Cymru yn cynnwys pwysau o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, newidiadau yn nwysedd a dosbarthiad y boblogaeth, a datblygiadau newydd, a gall pob un ohonynt gynyddu nifer y gollyngiadau o ganlyniad i orlifoedd stormydd. Mae’r papur briffio hwn gan Ymchwil y Senedd yn darparu gwybodaeth am reolaeth, lefel dealltwriaeth ac effaith ansawdd dŵr gorlifoedd stormydd Cymru.

Llygredd amaethyddol

Llygredd gwasgaredig amaethyddol yw un o'r prif resymau pam mae cyrff dŵr Cymru yn methu â chyflawni 'statws da' o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD), a'r sector llaeth sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o achosion o lygredd amaethyddol. Eir i’r afael â hyn drwy reoliadau llygredd amaethyddol, a drafodir ymhellach yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd.

Mae data Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2021 yn nodi amaethyddiaeth fel achos mwyaf cyffredin methiannau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, gan ei fod yn gysylltiedig â 21 y cant o’r holl fethiannau i gyrraedd statws da. Cysylltir y diwydiant dŵr â 15 y cant o fethiannau.

Llygredd ffosffadau

Mae ffosfforws yn elfen hanfodol ar gyfer bywyd planhigion, ond pan fydd gormod ohono, gall gyflymu ewtroffeiddio mewn afonydd, gan achosi tyfiant gormodol o ran planhigion ac algâu a all arwain at ddisbyddu’r ocsigen sydd ar gael ar gyfer organebau eraill.

Mae CNC wedi cynnal asesiad cydymffurfedd o ran afonydd yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Cymru yn erbyn targedau ffosffad, a ganfu fod yr Afon Wysg mewn cyflwr gwael o ran targedau ffosfforws, gyda methiannau eang sy’n aml yn fethiannau mawr.

Mae targedau ffosfforws wedi'u diweddaruwedi’u pennu ers hynny.

Mae’r Gweinidog yn amlygu:

Mae gweithredu cydgysylltiedig ar draws sefydliadau yn hanfodol os ydym am gyflawni newid a gwelliant i reolaeth a rheoleiddio amgylcheddol gorlifoedd yng Nghymru.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Yn yr ymateb i’r ddeiseb hon, dywedodd y Gweinidog fod mynd i’r afael â’r mater anhydrin ac amlochrog o lygredd yn mynd i mewn i’n hafonydd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Tynnodd y Gweinidog sylw at Uwchgynhadledd Llygredd Afonydd y Prif Weinidog yn Sioe Frenhinol Cymru eleni ar 18 Gorffennaf. Cytunodd uwch gynrychiolwyr o blith rheoleiddwyr, cwmnïau dŵr, datblygwyr, llywodraeth leol, undebau ffermio, y maes academaidd a chyrff amgylcheddol, ar wyth maes ymyrraeth,  y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ar eu cyfer. Ers hynny mae rhagor o fanylion am ddatblygu atebion i fynd i'r afael â llygredd ffosfforws wedi’u rhoi i’r Senedd, gan gynnwyssefydlu:

…byrddau rheoli maethynnau, y mae [Llywodraeth Cymru] wedi bod yn darparu cymorth ariannol o hyd at £415,000 ar eu cyfer. Mae cronfa ddata o fesurau lliniaru wedi'i llunio, a chaiff ei hystyried ar hyn o bryd….

… Mae cynnig caniatâd dalgylchoedd wedi’i ddatblygu ac mae’n cael ei ystyried gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae prosiect model marchnad dalgylch wedi’i sefydlu, ac mae’n gweithio ar dreial peilot ym Mrynbuga.

Tynnodd y Gweinidog sylw at ragor o feysydd y mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ar eu cyfer:

§  Caiff y cynllun Pedair Afon drwy’r prosiect LIFE , sy’n cynnwys yr Afon Wysg yn ei gylch gwaith, ei gefnogi gan £9 miliwn o gyllid yr UE dros bedair blynedd gyda chyllid rhannol gan Lywodraeth Cymru (£3.4 miliwn) a Dŵr Cymru. Caiff y prosiect ei gyflwyno fel partneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y Ganolfan Adfer Afonydd, Coleg Sir Gâr, a Choed Cadw.

§  Cyllid drwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer Partneriaeth Rheoli Dalgylch yr Wysg. Mae'r bartneriaeth yn gorff sy’n gyfrifol am sicrhau y cyflawnir yr Amcanion Cadwraeth ar gyfer Ardal Cadwraeth Arbennig yr Afon Wysg. Bydd yn darparu trosolwg a chyfeiriad i bawb sy'n ymwneud â chyflawni eu cynllun rheoli maetholion, sy'n ymwneud yn bennaf â mynd i'r afael â mater anhydrin llygredd ffosfforws.

Mae’r Gweinidog hefyd yn tynnu sylw at y Tasglu Gwell Ansawdd Afonydd (y tasglu), sy’n gwerthuso’r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifoedd yng Nghymru, ac yn datblygu cynlluniau manwl i ysgogi newid a gwelliant cyflym. Mae’r tasglu yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Ofwat, y ddau gwmni dŵr ar gyfer Cymru,  Afonydd Cymru a’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr

Mae wedi nodi pum maes ar gyfer newid a gwelliant y mae angen gweithredu ymhellach arnynt. Cyhoeddodd gynllun gweithredu ar gyfer pob maes ym mis Gorffennaf 2022:

§  Lleihau effaith weledol: gosod sgriniau: cynllun gweithredu;

§  Capasiti’r rhwydwaith (cynllun rheoli draenio a gwastraff dŵr): cynllun gweithredu;

§  Gwella ansawdd elifiant ac ansawdd afonydd: cynllun gweithredu;

§  Rheoleiddio amgylcheddol ar gyfer gorlifoedd storm: cynllun gweithredu; a

§  Dealltwriaeth ac ymgysylltiad â’r cyhoedd: cynllun gweithredu

Mae'r Gweinidog yn cydnabod, fodd bynnag, mai dim ond un o lawer o elfennau y mae angen mynd i'r afael â hwy er mwyn gwella ansawdd afonydd yng Nghymru yw gorlifoedd.

Mae’r Rhaglen Llywodraethu yn gwneud rhagor o ymrwymiadau i wella ansawdd dŵr drwy ddechrau dynodi dyfroedd mewndirol ar gyfer hamdden a chryfhau trefniadau monitro ansawdd dŵr. Dywedodd y Gweinidog wrth y Senedd yn ddiweddar fod y gwaith hwn yn dod yn ei flaen ar ffurf arolwg a dull peilot y flwyddyn nesaf.

Dywed y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru wedi “gwneud darpariaethau ar gyfer rhaglen amlflwyddyn, gwerth miliynau o bunnau i wella ansawdd dŵr—dros £40 miliwn dros y tair blynedd nesaf.”

3.     Camau gan Dŵr Cymru

Mae’r Gweinidog yn nodi’r gwaith y mae Dŵr Cymru yn ei wneud i wella asedau sy’n perfformio’n wael ym Mrynbuga. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi dros £10 miliwn mewn tair blynedd i “wella’r ffordd y mae eu gweithfeydd trin yn gweithredu, a lleihau nifer y gollyngiadau sy’n dod o orlifoedd carthffosiaeth cyfunol (CSO) yng ngorsaf bwmpio carthion Mill Street”.

Rhwng nawr a 2025, bydd y gwaith yn cael ei wneud mewn tri cham, fel y nodir gan y Gweinidog:

Cam 1 – Gwaith yng Ngorsaf Bwmpio Carthffos Wysg i uwchraddio'r asedau yn yr orsaf bwmpio carthion leol i osod siambr sgrinio a sgrin 6mm a fydd yn tynnu solidau mawr fel carpiau, cadachau gwlyb ac ati o unrhyw ollyngiad gorlif carthffosiaeth cyfunol. Mae'r gwaith hwn ar y gweill a bydd wedi'i gwblhau erbyn canol mis Rhagfyr.

Cam 2 – Gwaith i drosglwyddo rhagor o wastraff i'r gwaith trin dŵr gwastraff. Gwneud gwelliannau i'r rhwydwaith sy'n rhedeg rhwng yr orsaf bwmpio carthion a'r gwaith trin dŵr gwastraff, gan gynyddu ei gapasiti fel y gellir trin mwy o ddŵr gwastraff gwanedig a dŵr storm yn hytrach na defnyddio'r gorlif carthffosiaeth cyfunol.

Cam 3 – Adeiladu asedau newydd yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Brynbuga. Trosglwyddo rhagor o wastraff i'r gwaith trin dŵr gwastraff, er mwyn sicrhau bod ganddo'r gallu i drin y gwastraff. Gosod asedau a thanciau storio newydd sbon.

4.     Camau gan Senedd Cymru

Yn ddiweddar mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi cynnal darn byr o waith ar ansawdd dŵr a gollyngiadau carthion..

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru, a wnaeth nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, y cwmnïau dŵr a Chyfoeth Naturiol Cymru ar 15 Mawrth 2022. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb ar 9 Mai 2022. Mae ymatebion hefyd wedi dod i law oddi wrth gwmniau Hafren Dyfrdwy a Dŵr Cymru

 Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Mehefin 2022 ar adroddiad y Pwyllgor.

Cynhaliwyd dadl flaenorol yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mawrth 2022 ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar effaith gorlifoedd stormydd. Derbyniwyd y cynnig.

Cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: ymchwiliad i reoliadau Llywodraeth Cymru i reoli llygredd amaethyddol; Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad  Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar 8 Mehefin 2022. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 5 Hydref a chafwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Hydref 2022.

Mae’r deisebau a ganlyn ar bwnc llygredd amaethyddol wedi’u hystyried:

§    P-06-1263 Rheoli llygredd sy'n deillio o waith amaethyddol yn y rhannau o Afon Gwy ac Afon Hafren a leolir yng Nghymru

§    P-06-1232 Rhoi terfyn ar sefydlu unedau dofednod dwys trwy ddeddfu a chyflwyno moratoriwm hyd nes y gellir cyflawni hyn.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.